Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 12 Ebrill o 9am-5pm!
Sgroliwch i lawr am yr holl fanylion!
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am ddigwyddiadau eraill sy’n digwydd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn www.visitcaerphilly.com.
Ac ewch i dudalen digwyddiadau Facebook i gael diweddariadau rheolaidd a phostiadau gan fasnachwyr digwyddiadau!
Bydd Canol Tref Caerffili yn troi'n farchnad rhwng 9am a 5pm.
Bydd dros 100 o ddeiliaid stondin yn codi blas ar ymwelwyr gydag arogleuon bendigedig, seiniau sy'n hisian a chynnyrch a fydd yn tynnu dŵr i ddannedd.
Yn orlawn o ddanteithion coginiol ac yn cael eu hategu gan Farchnad y Crefftwyr boblogaidd, Marchnad Crefft a Bwyd Canolfan Siopa Cwrt y Castell a Ffair Grefft Caerffili ar bwys y Cofadail gan Crafty Legs, bydd dros 130 o fasnachwyr gwahanol!
Ymwelwyr yn dychwelyd gan gynnig detholiad gwych o gawsiau i'w blasu a'u prynu.
Bydd y stryd fawr (Cardiff Road) i Faes Parcio'r Twyn yn cael ei thrawsnewid yn farchnad brysur.
Bydd Cardiff Road a rhai strydoedd ymyl cyfagos ar gau.
Gweler gwaelod y dudalen we hon am wybodaeth bwysig i breswylwyr a manwerthwyr.
Mae parcio ar gael ym maes parcio talu ac arddangos Crescent Road ar Crescent Road, Caerffili CF83 1XY. Mae yna ddewis o opsiynau talu ac arddangos arhosiad hir neu fyr. Mae maes parcio gorsaf drenau Caerffili hefyd yn faes parcio talu ac arddangos. Mae gan Ganolfan Siopa Cwrt y Castell faes parcio AM DDIM ond dim ond am gyfnod cyfyngedig y mae. Gwiriwch yr arwyddion wrth gyrraedd.
Bydd Cardiff Road a rhai strydoedd ymyl cyfagos ar gau.
Cliciwch isod i weld map parcio ar gyfer y digwyddiad!
Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Grwpiau
Mae pecynnau noddi ar gael sy'n gweddu i fusnesau o bob math a maint. Cysylltwch â'r Tîm Adnewyddu Menter Fusnes ar digwyddiadau@caerffili.gov.uk Anfonwch neges e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk a bydd un o'r Swyddogion Digwyddiadau yn cysylltu â chi.
Oes diddordeb gyda chi mewn cael stondin yn yr ŵyl eleni? I gael ffurflen gais, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ym mwrdeistref sirol Caerffili, cofrestrwch ar gyfer ein e-fwletinau:
Click to view our Privacy Policy